English | Cymraeg

Oct 2, 2014

Portread Arglwyddes y Rhondda gan y Farwnes Anita Gale.

Posted by: Louise Bowen


Mae campweithiau yn y casgliad o bortreadau sydd yn Nhŷ’r Arglwyddi, ond yr un sy’n golygu’r mwyaf i mi yw’r un o Arglwyddes y Rhondda.

Dyma fenyw a gafodd fagwraeth dra breintiedig ac aeth yn fenyw fusnes ar adeg pan oedd hyn yn eithriadol o anarferol. Credai’r Arglwyddes yn hawl y fenyw i bleidleisio ac aeth yn swffragét yn ogystal ag ymgyrchu dros hawliau eraill i fenywod. Hi oedd sefydlwraig y cylchgrawn Time and Tide.

Roedd yn unig blentyn ac yn groes i’r arfer etifeddodd ei theitl gan ei thad, Arglwydd y Rhondda o Lan-wern. Roedd yntau hefyd yn ddyn busnes, perchennog pyllau glo yn y Rhondda.

Pan etifeddodd Arglwyddes y Rhondda ei theitl dechreuodd ymgyrch i ymgymryd â’i sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi. Yn anffodus er iddi ymddangos bod Pwyllgor y Breintiau wedi derbyn ei chais, penderfynodd y pwyllgor ei wrthod wedyn. Yn aml rwy’n dychmygu’r gwahaniaeth a ddigwyddai petai Arglwyddes y Rhondda wedi ymgymryd â’i sedd a’r gwahaniaeth a fyddai hefyd i fenywod eraill.

Roedd menywod yn cael eistedd yn Nhŷ’r Cyffredin o 1918 ymlaen. Ond o ran Tŷ’r Arglwyddi, roedd yn rhaid aros tan basio Deddf y Senedd ym 1958 a oedd yn caniatáu penodi Arglwyddi Oes. Gyda’r ddeddf honno y câi menywod eistedd yn Nhŷ’r Arglwyddi am y tro cyntaf. Cyn hynny dim ond dynion a etifeddodd deitl a oedd yn cael eistedd yno. Cymerodd tan 1963 cyn i fenywod a etifeddodd deitl gael gwneud hefyd. Rhy hwyr, wrth gwrs, i Arglwyddes y Rhondda. Bu farw hithau ym 1958.

Ond i ddychwelyd at y portread. Sbel yn ôl cysylltodd Jessica Morden, Aelod Seneddol dros Ddwyrain Casnewydd, â mi am ei bod yn gwybod am rywun a oedd am werthu ei bortread o Arglwyddes y Rhondda. A minnau’n aelod o bwyllgor y Celfweithiau, awgrymais y byddai’r portread hwn yn werth ei gael oherwydd ei gysylltiadau â Thŷ’r Arglwyddi. Cytunodd y pwyllgor brynu’r portread ac erbyn hyn mae’r portread yn cael ei arddangos yn Ystafell Fwyta’r Arglwyddi a’u Gwesteion i bawb gael ei weld.

Rwy’n falch iawn fy mod wedi cyfrannu mewn ffordd fechan at sicrhau bod portread Arglwyddes y Rhondda yn Nhŷ’r Arglwyddi. Ni chafodd eistedd yno yn ystod ei bywyd ond erbyn hyn mae ei phortread yno i bawb ei weld a’i edmygu.

Ei thad oedd piau pyllau glo’r Rhondda ac mewn un ohonynt roedd fy nhad o löwr yn gweithio.

Roedd Arglwyddes y Rhondda, ferch perchennog pyllau glo’r Rhondda, am gyfrannu at fywyd cyhoeddus drwy ymgymryd â’i sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi ond ni chafodd wneud. Ym 1999, a minnau’n Farwnes Gale o Flaenrhondda ac yn ferch i löwr o’r Rhondda, cefais ymgymryd â’m sedd i yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Credaf mai oherwydd gwaith ymgyrchu Arglwyddes y Rhondda dros hawliau menywod (a’n hawl i eistedd yn Nhŷ’r Arglwyddi’n benodol) y caiff menyw fel fi eistedd yno. Yn sicr dymchwelodd rwystrau i fenywod. Ymgyrchodd dros sawl agwedd yr wyf innau ac eraill yn ymgyrchu drostynt o hyd megis hawliau cyfartal i fenywod a chael rhagor o fenywod yn y bywyd cyhoeddus sydd ohoni. Mae gwaith yr Arglwyddes yn mynd rhagddi!

Dyna’r rheswm y mae’r portread ohoni, sydd erbyn hyn yn hongian yn ei briod le yn Nhŷ’r Arglwyddi, yn meddwl gymaint i mi.

Y Farwnes Anita Gale

29 Mehefin 2014