Ymgyrchwraig pwysig iawn dros hawliau menywod drwy gydol hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif oedd Margaret Mackworth, a adnabyddir hefyd fel Arglwyddes y Rhondda ond a gafodd ei geni’n Margaret Haig Thomas. Roedd yn allweddol wrth sefydlu Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol Menywod Casnewydd. Sefydlodd un o gylchgronau gwleidyddol mwyaf dylanwadol ei chyfnod. Carcharwyd hi am geisio ffrwydro blwch post yng Nghasnewydd yn yr ymgyrch dros ennill y bleidlais i fenywod. Roedd ei gwaith yn gyfraniad sylweddol at fudiad hawliau menywod a chafodd effaith barhaol ar ddemocratiaeth y De.
Mae’r wefan hon yn cefnogi prosiect arian Loteri sy’n perthyn i Winding Snake o’r enw A Bird in a Cage. Am gyfnod o naw mis mae pobl ifainc o ysgolion Caerffili a Chasnewydd yn archwilio’n greadigol fywyd a gwaith Arglwyddes y Rhondda a phenllanw’r gwaith hwn fydd creu ffilm wedi’i hanimeiddio.
Bydd y tudalen Adnoddau’n ddefnyddiol iawn i’r rhai sydd am ymgysylltu â’r hyn yr ydym wedi’i wneud. Mae’n cynnwys cynlluniau o’r gweithdai, recordiad o ddarlith y prosiect gan yr Athro Angela V. John, dolenni i wefannau perthnasol eraill a llawer o ddeunyddiau gweledol ac addysgiadol. Rhagor o wybodaeth am Arglwyddes y Rhondda.
Ganed Margaret Haig Thomas ym 1883, unig blentyn Sybil a David Alfred (‘D.A’) Thomas, ym Mayswater, Llundain. Ym 1887 dychwelodd y rhieni i’w mamwlad ac yng Nghymru ymgartrefodd y teulu yn Nhŷ Llan-wern ar gyrion dwyreiniol Casnewydd ger Magwyr. Treuliodd Margaret y rhan fwyaf o’i phlentyndod yno ond pan oedd yn dair ar ddeg oed aeth i’r ysgol yn Llundain am dair blynedd, cyn iddi fynd yn ddisgybl preswyl yn Ysgol Sant Leonard yn Andreas Sant yn yr Alban. Roedd yn amlwg yn anfodlon gael ei diffinio’n débutante ac ym 1904 aeth Margaret i astudio Hanes yng Ngholeg Somerville yn Rhydychen. Ond, er gwaethaf adroddiadau da gan ei thiwtoriaid, ar ôl dau dymor yno penderfynodd ymadael a dychwelyd i fyw yn Llan-wern.
Cafodd Arglwyddes y Rhondda ei theitl ar ôl ei thad, Arglwydd y Rhondda o Lan-wern. Mab groser ac entrepreneur o’r enw Samuel Thomas oedd D.A Thomas a gafodd ei fagu yn Nhŷ Ysguborwen, Aberdâr. Yn sgil marw Samuel Thomas ym 1879, etifeddodd D.A. gyfran fawr o fusnes ei dad gan gynnwys nifer o byllau glo yn y De. Wedyn bu D.A. yn frocer stoc yn Llundain ac ym 1888 cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Fwrdeistrefi Merthyr Tudful. Bu’n Aelod Seneddol tan 1910 ac ystyriwyd ef yn Aelod poblogaidd a llwyddiannus. Syndod o bosibl yw clywed disgrifiad D.A. o’i berthynas â’i ferch, yn enwedig o gofio ym mha gyfnod y bu’n byw: ‘Nid ydym megis tad a merch eithr cyfeillion da’ (John, 2013: 33). Treuliodd y ddau lawer o amser yng nghwmni ei gilydd gan gerdded yn y wlad, trafod gwleidyddiaeth a materion cymdeithasol y dydd. Pan dyfodd Margaret ychydig yn hŷn, arferai D.A. drafod yn fwyfwy gyda hi y byd busnes gan fentora ei merch i fynd yn fenyw fusnes yn ei rhinwedd ei hun.
Bu dylanwad D.A. yn gryf ar ddatblygiad diwylliannol a gwleidyddol ei ferch ond hefyd cafodd mam Margaret ddylanwad yr un mor gryf arni ac roedd honno hefyd yn weithgar yn wleidyddol. Mam Margaret oedd Sybil Haig, merch y masnachwr gwin o Iwerddon, George Augustus, a’i wraig, y Foneddiges Charlotte Guest. Roedd Sybil Haig yn gadeirydd canghennau Cymdeithas Ryddfrydol y Menywod yn Aberdâr a’r Fenni. Roedd hefyd yn aelod o Gymdeithas Genedlaethol Ganolog er Ennill y Bleidlais i Fenywod ac, yn nes ymlaen, hi oedd cadeirydd Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol Menywod Casnewydd. Ysgrifennodd Margaret yn ei hunangofiant fod ei mam wedi gweddïo’n daer y byddai ei merch fach yn mynd yn ffeminydd (1933:133). Roedd Sybil Haig yn cefnogi bod ei merch yn ymhél â byd busnes a gwleidyddiaeth. Roedd y menywod yn y teulu estynedig yn ymroddedig iawn i’r mudiad ennill y bleidlais i fenywod. Roedd Modryb Lottie a Modryb Janetta (chwiorydd Sybil) ill dwy’n aelodau diflino o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod a oedd yn ddigon milwriaethus. Roedd ei chyfyrderesau Florence, Eva a Cecilia hefyd yn aelodau brwd o’r Undeb.
Drwy gydol ei bywyd, bu Margaret yn gweithio’n ddygn i hyrwyddo’r achos dros hawliau cyfartal rhwng menywod a dynion. Ymgyrchodd dros hawl menywod i bleidleisio yn ogystal â chydraddoldeb deddfwriaethol ym maes cyflogaeth ac iechyd ac, yn hwyrach, hawl arglwyddesau i eistedd yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod Casnewydd: Ym 1909 sefydlwyd cangen Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod yng Nghasnewydd mewn cyfarfod a gadeiriwyd gan Sybil Haig Thomas. Ymgymerodd Margaret wedyn â swyddogaeth ysgrifenyddes y gangen, a hynny dim ond blwyddyn ar ôl iddi ymuno â’r Undeb. Lleolwyd cangen Casnewydd – neu ‘siop y swffragetiaid’ – yn gyntaf yn rhif 4 Plas Clarence cyn symud wedyn i rif 46 (Crawford, 2006). Yn 2014 archfarchnad sydd yn rhif 4, ac mae rhif 46, sydd ar draws yr heol ac yn agos at y senotaff, i’w gael rhwng siop pryd ar glud a bar ewinedd. Roedd Margaret wedi llwyr ymroi i achos y swffragetiaid ac yn fuan dechreuodd lunio adroddiadau am weithgarwch y gangen i’w hanfon at bencadlys yr Undeb yn Llundain. Teithiodd ar draws Cymru a De-orllewin Lloegr i hyrwyddo’r ymgyrch ennill y bleidlais i fenywod ac yn y diwedd canlyniad ei hymroddiad diysgog oedd cael ei charcharu ym Mrynbuga.
Mae’r ffoto hwn yn dangos Margaret yn ymgyrchu ar strydoedd Casnewydd ochr yn ochr â’i modryb, Lottie, a menyw leol arall, Miss Lawton.
Er gwaethaf ei haddewid i’w gŵr na fyddai byth yn cael ei hanfon i garchar, ym 1913 cyhuddwyd Margaret o osod yn anghyfreithlon sylwedd ffrwydrol mewn blwch post. Yn y blynyddoedd cyn hynny roedd yr Undeb wedi cynyddu ei weithredoedd milwriaethus gan gynnwys ‘bomio’ blychau post a malu ffenestri siopau a busnesau. Wrth ysgrifennu am y cyfnod hwn yn ei bywyd, mae Arglwyddes y Rhondda yn disgrifio sut y cyrhaeddodd bwynt lle na adawai ei chydwybod iddi beidio â gweithredu’n uniongyrchol pan oedd aelodau eraill o’r Undeb yn hyrwyddo’r achos gan ddefnyddio yn rheolaidd ddulliau y gallai eu glanio yn y carchar. Ar ôl bomio blwch post ar Heol Rhisga, Casnewydd cafodd ei harestio a’i chyhuddo. Yn unol â pholisi’r Undeb, plediodd yn ddieuog ond cafodd ei chyhuddo serch hynny. Ar ddiwedd yr achos rhoddwyd dewis iddi: talu dirwy ynteu mynd i garchar Brynbuga gerllaw am fis. Carchar oedd dewis Margaret. Cafodd ei rhyddhau ar ôl tridiau o streic newyn dan Ddeddf Carcharorion (Rhyddhau Dros Dro oherwydd Salwch) 1913. Ar lafar gwlad gelwid y ddeddf hon yn ‘ddeddf y gath a’r llygoden’ oherwydd ei bod yn caniatáu rhyddhau swffragetiaid a oedd ar streic newyn a’u hailarestio unwaith y bernid bod eu hiechyd yn ddigon cryf i barhau â’u carchariad. Serch hynny, pan ddychwelodd Margaret adref, cafodd wybod bod rhywun dienw wedi talu ei dirwy drosti ac felly nid oedd yn rhaid iddi fynd yn ôl i’r carchar. Yn ei hunangofiant disgrifiodd ei hunigrwydd a’i hynysigrwydd yn y carchar, ac ar ôl iddi sylwi ar adar y to yn hedfan yn rhydd o amgylch iard y carchar, gwnaeth adduned i beidio byth cadw aderyn yn gaeth mewn cawell (1933:158).
Ymgymerodd Margaret â gwaith gwleidyddol a aeth y tu hwnt i ennill y bleidlais i bawb gyda’r amcan o greu cymdeithas fwy cyfartal i fenywod a dynion. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf sefydlodd banel i fenywod yng Ngweinyddiaeth yr Arfau Rhyfel ac wedyn, fel y dirwynai’r rhyfel tua ei derfyn, dewiswyd hi hefyd yn aelod o Bwyllgor Ymgynghorol y Menywod a grewyd gan y Weinyddiaeth dros Ailadeiladu. Yn y ddwy swydd hyn aeth ati’n bellach o ran craffu ar hawliau menywod ym maes cyflogaeth yn ystod y rhyfel a’r canlyniadau ar gyfer cyflogaeth menywod yn y blynyddoedd ar ôl y rhyfel (John, 2013). Ym 1923 creodd Margaret Gynghrair Ddiwydiannol a Gwleidyddol y Menywod a oedd â’r cylch gwaith o gynyddu cyfleoedd i fenywod ymgymryd â chyflogaeth grefftus a oedd â chyflog da. Cyn hynny, ym 1921, sefydlodd Grŵp y Chwe Phwynt gyda maniffesto a alwai am hawliau cyfartal i fenywod yn y gweithle ac ar gyfer mamau a phlant.
Dyma’r chwe phwynt:
Ym mlynyddoedd y 1930au dechreuodd y Grŵp hefyd lobïo Senedd Llundain am yr hawl i fenywod priod gael eu cyflogi (Moynagh, 2012). Roedd y cylchgrawn Time and Tide (a greodd Margaret ym 1920) yn llwyfan i lawer o’r gwaith gwleidyddol hwn. Yn wir daeth y cylchgrawn hwn yn gyfeirbwynt diwylliannol a gwleidyddol o bwys yn ei ddydd gan gyhoeddi adolygiadau llenyddol yn ogystal ag erthyglau a hyrwyddai syniadau blaengar, ffeminyddol am ddatblygiad hawliau cyfartal yn ein cymdeithas ac ystyried materion gwleidyddol ar lefel ryngwladol (John, 2013).
Ym Mai 1915 ar ganol y Rhyfel Byd Cyntaf cafodd Margaret a D.A. brofiad o bron marw. Ar fordaith i Brydain o Efrog Newydd suddodd llong fawr gefnforol o’r enw’r Liwsitania oddi ar arfordir de-orllewinol Iwerddon. Collodd 1,198 o bobl eu bywyd o ganlyniad i ymosodiad torpido gan long danfor o’r Almaen. Roedd Margaret a D.A. yn dychwelyd o Efrog Newydd lle buont yn trafod busnes ac roeddynt ymhlith y 764 o oroeswyr ffodus. Yn fuan ar ôl i’r torpido daro’r llong, gwahanwyd y tad a’r ferch. Tra suddai’r llong dihangodd D.A. mewn rafft achub. Yn y cyfamser roedd Margaret wedi mynd i chwilio am eu gwregysau achub a bu bron iddi foddi. Aeth bwrdd y llong dan ddŵr a chafodd ei dal dan y tonnau. Aeth yn anymwybodol ond cafodd ei hachub. Credid yn gyntaf ei bod yn farw. Ond ymhen hir a hwyr cafodd ei hun yn ôl gyda’i thad yn Nhref y Frenhines, Iwerddon.
Yn negawdau cynnar yr ugeinfed ganrif, roedd gan Arglwyddes safle o bwys ym myd masnach Prydain. Pan oedd D.A. yn chwilio am brif gynorthwyydd busnes iddo, awgrymodd ei wraig y byddai eu merch yn gweddu i’r dim (John, 2013). A hynny a fu, er gwaethaf y ffaith iddi briodi’n eithaf diweddar. Bu Margaret yn cydweithio â D.A. yn ei swyddfeydd yn Nociau Caerdydd tan ei farw ym 1918. Erbyn y flwyddyn honno, roedd Margaret mewn sefyllfa anhygoel a hithau’n fenyw a eisteddai ar gyfanswm o 30 o fyrddau mewn cwmnïau masnachol a chadeiriai saith ohonynt. Roedd y rhan fwyaf o’i busnes yn y diwydiannau glo a dur ond bu hefyd yn eistedd ar fyrddau cwmnïau llongau cenedlaethol a rhyngwladol yn ogystal ag ar ystod o fyrddau busnesau eraill. Roedd gan Margaret awydd angerddol gynrychioli menywod ym myd busnes ac roedd yn weithgar wrth sefydlu a chadeirio’r Clwb Effeithlonrwydd (John, 2013) a oedd yn ei hanfod yn sefydliad rhwydweithio ar gyfer menywod Prydain ym myd busnes. Ym 1920 cymerodd Margaret gam i ddatblygu ei gyrfa’n bellach ym myd diwylliant a gwleidyddiaeth gan sefydlu Time and Tide, cylchgrawn dylanwadol iawn yn ei ddydd.
Pan fu farw Arglwyddes y Rhondda ym 1958, roedd Tŷ’r Arglwyddi yn parhau i wrthod yr hawl i arglwyddesau etifeddol ymgymryd yn gyfreithlon â’u seddi yno. Yn y flwyddyn honno roedd menywod am y tro cyntaf yn cael eu gwneud yn arglwyddesau ar yr un sail ag yr oedd dynion yn cael eu gwneud yn arglwyddi (ac roedd y dynion a’r menywod yn cael cymryd eu seddi yn Nhŷ’r Arglwyddi). Ond roedd yn rhaid i arglwyddesau etifeddol aros nes pasio Deddf yr Arglwyddiaethau 1963 i gael cymryd eu seddi yno. Am ddegawdau roedd Margaret wedi ymgyrchu am yr hawl i arglwyddesau gael mynd i Dŷ’r Arglwyddi a’r enw anffurfiol ar fesur cynnar i ganiatáu hyn oedd ‘mesur Arglwyddes y Rhondda’. Mae ei chofiannydd, Angela V. John, yn nodi (er bod yr hawl hwnnw’n un dieithr iawn ym mywyd beunyddiol y rhan fwyaf o fenywod Prydain) fod yr hawl, serch hynny, yn hanfodol wrth gynyddu ystod y dylanwad posibl i fenywod ar lefel uchaf gweinyddiaeth gyhoeddus.
Priododd Arglwyddes y Rhondda â Humphrey Mackworth ym 1908, gan fyw’n gyntaf yn Nhŷ Llansoar yng Nghaerllion tan 1911, cyn symud i Dŷ Oaklands ym Mhont-hir. Cafodd y ddau ysgariad ym 1923. Nid ailbriododd Margaret ond roedd ganddi berthynasau o bwys wedyn yn ei bywyd. Yn hwyr yn negawd y 1920au rhannodd gartref yng Nghaint gyda golygyddes Time and Tide, Helen Archdale, ac wedyn bu’n byw am chwarter canrif yn Swydd Surrey gyda’r awdures a’r golygyddes, Theodora Bosanquet.
Crawford, E. (2006) The Women’s Suffrage Movement in Britain and Ireland: A regional survey. Abingdon: Routledge.
John, A.V. (2013) Turning the Tide: The life of Lady Rhondda. Llandysul, Parthian.
Moynagh, M. ed with Forestall, N. (2012) Documenting First Wave Feminisms Vol 1: Transnational Collaborations and Crosscurrents. Toronto: University of Toronto Press.
Rhondda, Viscountess. (1933) This was my World. London: Macmillan.
Gweithdy Baner
Gweithdy Ysgrifennu Creadigol
Cynlluniau Gwersi
Cliciwch yr isod i lawrlwytho'r adnoddau.
Gweithdy Cyflwyniadol: Ymchwilio hanes trwy arteffactau. Gan: Amgueddfa Sain Fagan
Ysgirfennu Creadigol: Barddoniaeth suffragetiaid. Gan: Mab Jones
Cerdd: Cyllun gweithdy cerdd (Ngweithdy'r ysgol iau) Gan: Tic Ashfield
Darlith: Bywydau Niferus Mrs Mackworth Lecture - 17th February 2014 - Lawrlwythwch y Trawsgrifiad
A hithau’n rheolwr y prosiect, mae Amy yn gyfrifol am bob agwedd ar y rhaglen: codi arian; recriwtio; amserlennu; marchnata; hyrwyddo; rheoli digwyddiadau; cynhyrchu ffilm; gwerthuso’r prosiect. Hi hefyd yw un o arweinwyr y gweithdai a bydd yn cynhyrchu a hwyluso cymhwyster achrededig Agored Cymru mewn Hanes ar gyfer plant Ysgol Lewis i Ferched. Mae Amy yn raddedig mewn Hanes ac yn hanesydd amatur brwd. Hi yw Rheolwr-Gyfarwyddwr Winding Snake ac mae wedi cyflawni sawl prosiect arobryn yn ystod ei gyrfa. Mae’n edrych ymlaen yn eiddgar at rannu bywyd anhygoel Arglwyddes y Rhondda ac mae’n gobeithio y bydd y prosiect yn ysbrydoli pobl i archwilio i’w treftadaeth wleidyddol.
Lauren sy’n arwain cynhyrchu’r ffilm animeiddedig a gaiff ei chreu yn ystod y prosiect. Hi hefyd sy’n gyfrifol am gydlynu rhaglen y prosiect i Ysgol Gynradd Gymraeg Casnewydd a hi yw un o arweinwyr gweithdai’r prosiect. Bu Lauren yn creu ffilmiau i Winding Snake am flwyddyn a hanner a bu gyda’r prosiect ers ei ddyfeisio yn ystod egwyl goffi un o’r gweithdai yn Ysgol Lewis i Ferched. Mae’n edrych ymlaen at rannu’r prosiect â’r holl amrywiaeth o bobl ifainc y bydd y tîm yn cwrdd â hwy ar ei daith a’u helpu i greu ffilm ar y cyd.
Louise sy’n gyfrifol am gynhyrchu a rheoli cynnwys gwefan y prosiect yn ogystal â datblygu fframwaith gwerthuso’r prosiect. Dros y pymtheng mlynedd diwethaf bu Louise yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau ym maes addysg i oedolion a datblygu cymunedol. Mae ’n aelod newydd o’r tîm ac mae newydd orffen ei PhD am brofiad ffoaduriaid o fyfyrwyr mewn addysg uwch ym Mhrydain. Mae’n edrych ymlaen at weld y bobl ifainc yn ymgyfranogi o’r gweithdai a chymryd golwg o’r newydd ar eu syniadau am ddemocratiaeth gan ddefnyddio dulliau creadigol.
Hoffen ni glywed ganddoch chi. Cwblhewch y ffurflen isod a bydden ni'n ymateb i chi yn fuan. Diolch.
Gallery
Thank you for installing the Gallery module. If you have uploaded some images to the 'uploads/images/Gallery' folder, you will see them below. You can edit titles, descriptions and thumbnail sizes in the admin section. Check out all the other features this module offers in the Module Help.